Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 10 Hydref 2023
Amser:
09.01 -
09.10
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Lesley Griffiths AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Dirprwy Brif Weithredwr a Chlerc a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn trafodion Cyfnod 3.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm.
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Pwyllgor Busnes am ei bwriad i wneud datganiad byr a gwahodd y Senedd i gynnal eiliad o fyfyrio dros y rhai y mae’r gwrthdaro yn Israel a Phalesteina wedi effeithio arnynt. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Llywydd hefyd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i wneud datganiadau byr.
Dydd Mercher
Ar gais y Llywodraeth, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid aildrefnu dadleuon y gwrthbleidiau i hwyluso'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i ymateb i ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd meddwl, fel y nodir isod:
Gofynnodd y Llywydd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa aelodau eu grwpiau na ddylent gyrraedd yn hwyr ar gyfer eitemau y maent am gyfrannu iddynt a dywedodd ei bod hi a'r Dirprwy Lywydd yn bwriadu cymryd agwedd gadarn at beidio â galw Aelodau mewn amgylchiadau o'r fath yn y dyfodol. Gofynnodd y Llywydd hefyd i’r Rheolwyr Busnes atgoffa Aelodau o'r disgwyliad nad ydynt yn gadael y Siambr yn ystod eitemau y maent wedi cyfrannu iddynt.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes nad oes unrhyw newidiadau i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 8 Tachwedd 2023 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau i gyflwyno adroddiad ar 16 Hydref;
4.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 5) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio.
Nododd y Pwyllgor Busnes nad yw'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn bwriadu adrodd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio gan fod y gwelliannau a gaiff eu cwmpasu gan y Memorandwm hwnnw y tu allan i gylch gwaith y Pwyllgor. Am yr un rheswm, cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 5) i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch ei gyfarfod ar 4 Rhagfyr 2023
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i’r cais i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gwrdd yn gynharach na'i amser cyfarfod a drefnwyd ar 4 Rhagfyr, er mwyn hwyluso sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip.